BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

First of a Kind 2021: cronfa sy'n agored i arloeswyr a dyfeiswyr rheilffyrdd

Mae'r gystadleuaeth First of a Kind yn cynnig cyfran o wobr o £9 miliwn am syniadau ar gyfer rheilffyrdd y dyfodol, i ddatblygu arddangoswyr sy'n: 

  • cynyddu hyder cwsmeriaid a gwella eu profiad
  • darparu rheilffordd sy'n hawdd ei defnyddio
  • cynnig allyriadau isel a rheilffordd wyrddach

I arwain prosiect, rhaid i chi:

  • fod yn sefydliad o unrhyw faint sydd wedi'i gofrestru yn y DU, yr UE neu'r AEE
  • cyflawni eich gwaith prosiect yn y DU

Croesewir ymgeiswyr o bob sector. Gallwch chi weithio ar eich pen eich hun neu gyda sefydliadau eraill fel is-gontractwyr.

Rhaid i'ch prosiect gynnwys:

  • perchennog asedau rheilffordd (er enghraifft gorsafoedd, cerbydau rheilffyrdd neu seilwaith)
  • sefydliad rheilffordd profiadol
  • sefydliad rheilffordd sydd â'r potensial i ddod yn gwsmer

Daw'r gystadleuaeth i ben ddydd Mercher 10 Mawrth 2021 am 11am.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK .


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.