BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

FyMentor: rhaglen fentora GlobalWelsh

Mae GlobalWelsh, cymuned annibynnol a dielw sy’n canolbwyntio ar gysylltu ac ymgysylltu â’r Cymry ar wasgar wedi lansio ‘FyMentor’, sef rhaglen fentora Academi GlobalWelsh sy’n canolbwyntio ar gysylltu aelodau o gymuned GlobalWelsh â mentoriaid ledled y byd i gefnogi eu gyrfaoedd a’u huchelgeisiau i ddatblygu busnes.

Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen FyMentor yn croesawu diddordeb gan fentoriaid ac unigolion sy’n cael eu mentora yn y gymuned a fydd yna’n cael eu paru yn seiliedig ar eu sgiliau, eu harbenigedd a’u dyheadau.

Mae’r rhaglen ar gael i aelodau arloesol ac uchelgeisiol Cymuned Gyswllt GlobalWelsh

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GlobalWelsh.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.