BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gallai canfod a thrin cyflyrau llygaid yn gynnar achub eich golwg

Person having an eye test

Profion golwg rheolaidd yw'r ffordd orau o sicrhau bod eich llygaid yn iach, a gallent arwain at driniaeth lwyddiannus ar gyfer cyflyrau anhysbys, sy'n bygwth eich golwg ac efallai eich bywyd hyd yn oed.

Dyna'r neges gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mewn ymgyrch newydd i annog oedolion dros 30 oed i fynd i gael prawf golwg yn eu practis optometreg lleol (optegwyr).

Nid oes gan rai cyflyrau sy'n achosi pobl i golli eu golwg unrhyw symptomau, ond yn aml gall prawf golwg ganfod y cyflyrau hyn cyn ichi sylwi ar unrhyw newidiadau yn eich golwg - gan arwain at driniaeth hanfodol ar yr adeg iawn, i achub eich golwg.

Mae'r ymgyrch optometreg 'Helpwch ni i'ch helpu chi', a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, yn annog pawb i gael archwiliadau llygaid rheolaidd gan eu hoptometrydd, er mwyn osgoi problemau difrifol gyda'u llygaid.

Mae profion golwg y GIG yn rhad ac am ddim i'r rhai sy'n gymwys. Mae pobl ifanc a'r henoed, pobl sydd ar fudd-daliadau neu'r rhai sydd â hanes o glawcoma yn y teulu yn gymwys i gael prawf am ddim.

Byddwch hefyd yn gymwys os ydych chi'n defnyddio sgriniau cyfrifiadurol yn y gwaith. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyflogwyr drefnu prawf ar eich cyfer os byddwch yn gofyn am un. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr fel arfer yn cytuno i dalu am y prawf golwg rydych wedi'i drefnu i chi'ch hun.

O ganlyniad i gytundeb newydd, gall mwy o bobl yng Nghymru nawr gael prawf golwg am ddim. Gall pobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu rhai cyflyrau llygaid gael archwiliadau llygaid am ddim drwy Gynllun Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys pobl sydd:

  • o grwpiau ethnig Asiaidd neu Ddu
  • yn fyddar neu'n ddall
  • â phroblemau llygaid sydd angen sylw brys
  • wedi cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu neu gan optometrydd sydd wedi cofrestru â'r Cynllun Archwiliadau Llygaid

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gallai canfod a thrin cyflyrau llygaid yn gynnar achub eich golwg | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.