BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gallwch gael cyngor a chymorth busnes dibynadwy, gartref

Mae Canolfan Fusnes ac Eiddo Deallusol y Llyfrgell Brydeinig (BIPC) wedi ail-lansio ei rhaglen 'Reset. Restart' o weminarau am ddim, a gynlluniwyd i'ch helpu i oresgyn rhwystrau a ffynnu yn yr hinsawdd bresennol.

Dechreuodd Restart yn ystod anterth pandemig COVID-19 gyda'r nod o gefnogi busnesau bach i addasu a dod drwy’r gwaethaf. Er bod y set o heriau y mae perchnogion busnes yn eu hwynebu heddiw wedi newid, mae'r cymorth yr un mor angenrheidiol nawr ag yr oedd bryd hynny. 

Gallwch gyfarfod a rhwydweithio gyda pherchnogion busnesau bach eraill o'r un meddylfryd a magu eich hyder ar bynciau fel marchnata cyfryngau cymdeithasol, ariannu, technoleg ar gyfer eich busnes a llawer mwy.

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer un neu fwy o'r gweminarau misol, ewch i Reset. Restart - The British Library (bl.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.