BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galw ar holl gwmnïau'r Gadwyn Gyflenwi Trafnidiaeth!

Missing media item.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar brosiect traws-sector uchelgeisiol, mewn partneriaeth â Fforwm Modurol Cymru, i amlygu a mapio'r cwmnïau hynny yng Nghymru sy’n gweithredu, neu a allai weithredu, yn y farchnad Symudedd Allyriadau Sero Net newydd.

 

Efallai bod eich cwmni eisoes yn cyflenwi'r farchnad symudedd sero net, boed hynny’n Foduron, Trenau, Morol, Awyrofod ac ati, neu’n meddu ar y gallu, yr hyblygrwydd, a’r weledigaeth i newid eu proses a chymryd rhan mewn cadwyni cyflenwi Symudedd Sero Net yn y dyfodol.

Un o nodau’r prosiect yw cydnabod lle mae meysydd o ddiddordeb cyffredin ynghylch pileri technoleg allweddol:

  • Cadwyn Gyflenwi Batris a Storio Ynni 
  • E-beiriannau
  • Electroneg Pŵer a Systemau Trydanol
  • Celloedd Tanwydd
  • Systemau Gyriant Thermol Amgen
  • Cerbydau Tanwydd Amgen
  • Ailgylchu
  • Pwysau ysgafn 
  • Isadeiledd 
  • Galluogwyr cysylltiedig ac awtomataidd 

Ein nod yn y tymor hir yw dod â chwmnïau at ei gilydd yng Nghymru sy'n gallu gweithio gyda'i gilydd, gan adeiladu clystyrau o fusnesau sydd â buddiannau tebyg yn y sector symudedd yn y dyfodol, un y gallwn ei farchnata'n rhyngwladol a helpu i gryfhau'r sector i ddiogelu swyddi. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Mawrth 2023

Os ydych chi'n meddwl y dylai eich busnes fod yn rhan o'r dyfodol cyffrous hwn, cysylltwch â info@netzeromobility.co.uk


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.