BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galwad ar fusnesau yn Ne-ddwyrain Cymru i lunio’r cymorth y mae arnynt ei angen ar gyfer tyfu yn y dyfodol

Mae Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cysylltu â busnesau i bennu’r gwasanaethau y mae arnynt eu heisiau ar gyfer tyfu yn y dyfodol.

Mae bwrdd y Cyngor Busnes yn gyfrifol am roi llais i anghenion busnesau, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cymorth presennol a chynllunio rhaglenni cymorth y dyfodol, gan sicrhau bod llais busnesau wrth graidd strategaeth a phroses llunio penderfyniadau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ac yntau wedi’i ymrwymo i bennu a hwyluso modd o gael at yr offer a’r gwasanaethau sydd eu hangen i helpu busnesau yn y rhanbarth i ddatblygu ac i dyfu, lansiodd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd arolwg i ganfod yr hyn y mae busnesau’n ei gredu yw’r cymhellion allweddol i wneud i fusnesau lwyddo.

Gwahoddir busnesau yn Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen i rannu’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn eu hwynebu.  
Caiff adborth o’r arolwg wedyn ei ddefnyddio i lunio ac i gyflenwi rhaglenni o werth.

I gymryd rhan yn yr arolwg, sy’n cau ar 5 Gorffennaf 2021, ewch i: https://www.surveymonkey.co.uk/r/G5G3F6N


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.