BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofalu am ein Treftadaeth werthfawr, Darganfod a Dysgu

Castell Cas-Gwent/Chepstow Castle

Mae’r flwyddyn hon yn garreg filltir bwysig i Cadw wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed. Bydd yn parhau â’i genhadaeth i ofalu am lefydd hanesyddol Cymru, gan ysbrydoli cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol i gysylltu â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y genedl.

Ers ei sefydlu yn 1984, mae Cadw wedi croesawu dros 50 miliwn o ymwelwyr o bob cwr o’r DU a’r byd i’w henebion hanesyddol yng Nghymru. Erbyn hyn, mae dros 30,000 o adeiladau hanesyddol rhestredig, dros 4,200 o henebion hanesyddol gwarchodedig, bron i 400 o barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a phedwar safle Treftadaeth y Byd.

Mae Cadw yn uniongyrchol gyfrifol am ofalu am dros 130 o henebion hanesyddol gan gynnwys cestyll canoloesol, abatai, safleoedd diwydiannol, henebion Rhufeinig a chynhanesyddol fel beddrodau siambr neolithig, gan sicrhau bod ymwelwyr yn gallu parhau i fwynhau’r lleoliadau ysblennydd hyn nawr ac am flynyddoedd i ddod. Yn ddiweddar, mae Cadw wedi ychwanegu Llys Rhosyr a Chastell Caergwrle – mannau eiconig sy’n gysylltiedig â Thywysogion Cymru. 

I nodi’r garreg filltir, mae gan Cadw amserlen lawn o adloniant a gweithgareddau yn ei safleoedd ledled Cymru yr haf hwn a fydd yn arddangos popeth sydd ganddo i’w gynnig. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys penwythnosau sy’n seiliedig ar themâu hanesyddol lle bydd cyfle i ddatgelu trysorau canoloesol,  ysgolion marchogion ac ysgolion cleddyfau i blant, arddangosfeydd hedfan gydag adar rhyfeddol a gweithgareddau ar thema ffantasi fel ‘hyfforddi dreigiau’!

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Dathlu 40 mlynedd o Cadw: Gofalu am ein Treftadaeth werthfawr, Darganfod a Dysgu | Cadw (llyw.cymru)

Mae twristiaeth yn dod ag arian mawr i Gymru. Mae twristiaid yn gwario tua £17 miliwn y dydd yng Nghymru, sy'n creu cyfanswm o ryw £6.3 biliwn y flwyddyn. Mae bod yn berchen ar eich busnes twristiaeth eich hun a'i redeg yn gallu rhoi boddhad mawr. P'un a ydych yn ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eich bod eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu am ddatblygu'ch busnes presennol, gallwn ni helpu: Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.