BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofod Masnachu am Ddim yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023

Bydd Gwynedd yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i ardal Llŷn ac Eifionydd yr haf yma – cyfle delfrydol i fusnesau micro a bach eu maint i arddangos a gwerthu eu cynnyrch ar y maes. Dyddiad Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yw 5 i 12 Awst 2023.

Bydd tîm Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd yn cynnig nifer cyfyngedig o ofodau masnachu am ddim ar faes yr Eisteddfod eleni, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i fusnesau newydd, sydd wrthi’n datblygu neu nad ydynt wedi cael gofod ar faes yr Eisteddfod o’r blaen. 

Mae ceisiadau yn cau am 5pm ar 25 Mehefin 2023. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyfle Arbennig i Gael Caban am Ddim ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.