BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gohirio taliadau TAW oherwydd coronafeirws

Bydd busnesau a ohiriodd eu taliadau TAW a oedd yn ddyledus rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 yn cael cyfle i dalu symiau llai dros gyfnod hirach.

Yn hytrach na thalu’r swm llawn erbyn diwedd mis Mawrth 2021, gallwch dalu symiau llai hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022, yn ddi-log. Bydd angen i chi optio i mewn i’r cynllun, ac os ydych chi’n gwneud hynny, ni fydd angen i chi dalu’r symiau TAW llawn sy’n ddyledus rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 tan ddiwedd mis Mawrth 2022.

Mae’r rhai sy’n gallu talu eu TAW gohiriedig yn dal i allu gwneud hynny erbyn 31 Mawrth 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.