BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Datblygu Busnes Cam 3 – ceisiadau ar agor

Mae ceisiadau Grantiau Datblygu Busnes cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd bellach ar agor. Bwriad y gronfa hon yw cefnogi busnesau Cymru gyda phrosiectau datblygu er mwyn helpu i adfer o effeithiau pandemig Covid-19 a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.

Rydym yn disgwyl cefnogi prosiectau a fydd yn helpu i wella sut mae cwmnïau’n gweithredu ac yn adfer o’u hamgylchiadau presennol. Yn arbennig, rydym yn croesawu prosiectau datblygu a fydd yn helpu i gynnal a chreu swyddi i bobl ifanc (25 oed ac iau), pobl ag anableddau a phobl o gymunedau BAME.

Bydd y grantiau datblygu busnes ar agor i fusnesau o bob maint.

Bydd y gronfa grant ar agor ar gyfer ceisiadau ar 28 Hydref 2020 ac yn parhau i fod ar agor tan 25 Tachwedd 2020 neu hyd nes y bydd arian wedi'i ymrwymo'n llawn.

Bydd y cyllid yn cwmpasu’r cyfnod o fis Hydref 2020 tan 31 Mawrth 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y busnesau a’r sefydliadau sy’n gymwys am y grant hwn hyd yn oed os cawson nhw gyllid Cam 1 neu 2 o’r Gronfa Cadernid Economaidd, neu grant ardrethi annomestig.

I gael rhagor o wybodaeth, i wirio eich cymhwysedd a gwneud cais ewch i  gwiriwr cymhwysedd am gymorth COVID-19 Fusnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.