BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau i elusennau bach arbenigol

Gall elusennau bach a lleol, sy'n gweithio gyda phobl sy'n wynebu problemau a rhwystrau cymhleth, wneud cais am arian grant gan Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr. 

Gall elusennau arbenigol gydag incwm blynyddol rhwng £25,000 a £500,000 wneud cais am grant tair blynedd, heb gyfyngiad gwerth hyd at £75,000.

Bydd y Sefydliad yn cefnogi elusennau sy'n deall cymhlethdod y materion y mae pobl yn eu hwynebu ac sydd yn y sefyllfa orau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. 

Y themâu agored yw: 

  • Dibyniaeth
  • Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
  • Y rheiny sy'n gadael gofal
  • Cam-drin domestig
  • Digartrefedd
  • Troseddu
  • Cam-drin rhywiol ac ecsploetio
  • Masnachu a chaethwasiaeth fodern

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 3 Mawrth 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Apply for funding (lloydsbankfoundation.org.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.