BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau i Elusennau gan The Weavers Company

male cooks preparing sushi in the restaurant kitchen

Mae The Weavers Company yn dymuno gweithio gyda sefydliadau sy’n gallu dangos gwaith effeithiol gyda chyn-droseddwyr, troseddwyr ifanc, neu bobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, naill ai o fewn ardal leol neu’n genedlaethol.

Prif nodau’r grant yw cefnogi pobl mewn trafferthion, yn enwedig troseddwyr ifanc a chyn-droseddwyr, yn ogystal â phobl ifanc ddifreintiedig eraill.

Blaenoriaethau: 

  • Cynorthwyo troseddwyr i gael gwaith
  • Helpu grwpiau penodol o fewn y sector cyfiawnder troseddol
  • Cefnogi pobl ifanc

Bydd y cwmni’n ariannu elusennau cofrestredig yn y DU a Sefydliadau Corfforedig Elusennol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cefnogi Cwmnïau Buddiant Cymunedol.

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn 2024: 

  • Dydd Iau 14 Mawrth
  • Dydd Iau 4 Gorffennaf
  • Dydd Iau 14 Tachwedd 

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: Charitable Grants – The Weavers' Company


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.