BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau newydd i fwrw ati i daclo’r argyfyngau’r hinsawdd a natur

Lansiwyd grant cystadleuol cyntaf o’i fath yng Nghymru, sy’n cynnig Grantiau Cyflawni rhwng £50,000 a £250,000 i gefnogi’r gwaith o adfer mawndiroedd.

Mae’r Grantiau Cyflawni cystadleuol newydd, a ddaw o gronfa ariannu sydd â chyfanswm o £500,000, yn addas ar gyfer unrhyw ymgeiswyr sydd â chynllun yn barod i adfer mawndiroedd - o adfer cynefinoedd i ostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Rhaid i chi wneud cais cyn hanner nos ar 1 Gorffennaf 2023. 

Gellir gwneud cais am y Grant Cyflawni drwy dudalen we’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.