
Os oes gennych chi syniad neu os ydych chi eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac yn chwilio am gymorth i ddatblygu eich menter gymdeithasol, mae UnLtd yn cyfuno cyllid a chefnogaeth i'ch helpu i ddechrau arni neu dyfu.
Bydd o leiaf 50% o'r Dyfarniadau yn cefnogi entrepreneuriaid cymdeithasol sy'n dod o gefndir anabl a/neu Ddu, Asiaidd neu ethnig leiafrifol.
Fel Enillydd Dyfarniad, gallwch fanteisio ar y cyngor, yr arweiniad a'r arbenigedd sydd eu hangen i adeiladu ar sylfeini eich menter gymdeithasol ac ehangu’r effaith rydych chi’n ei chael.
Ar sail eich oedran, lleoliad, a'r sectorau yr ydych chi a'ch menter gymdeithasol yn gweithredu ynddynt, byddwch yn cael eich neilltuo i raglenni wedi'u teilwra i dderbyn cymorth am hyd at flwyddyn. Mae'r rhaglenni wedi'u cynllunio i ddarparu cefnogaeth arbenigol sy'n cyd-fynd â’ch anghenion chi a'ch menter gymdeithasol. Gan ddibynnu ar ba gam o’ch datblygiad yr ydych chi, gall hyd at £18,000 o gyllid gael ei gynnig.
Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol: