BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Treftadaeth

Mae ceisiadau wedi agor ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, o £3,000 hyd at £5 miliwn. Bydd y grantiau’n blaenoriaethu prosiectau sy’n cyfrannu at yr adferiad yn dilyn argyfwng y coronafeirws (COVID-19) a hefyd:

  • sy’n hybu’r economi leol
  • yn annog datblygiad sgiliau a chreu swyddi
  • yn cefnogi lles
  • yn creu gwell lleoedd i fyw, gweithio ac ymweld â nhw
  • yn gwella cadernid sefydliad sy’n gweithio ym maes treftadaeth

Hefyd, mae’n rhaid i bob prosiect fedru dangos eu bod yn amgylcheddol gyfrifol ac yn integreiddio mesurau amgylcheddol i’w prosiectau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.