BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

The Great British Businesswoman Awards 2024

Business woman stood by a desk in an office

Mae 'The Great British Businesswoman Awards' yn dwyn ynghyd ac yn dathlu’r menywod sy’n newid wyneb busnes yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gwobrau'n arddangos y modelau rôl, eiriolwyr a mentoriaid busnes, yn ogystal â'r menywod ysbrydoledig sy'n datblygu ac yn arwain busnesau ar draws sawl sector o’r economi.

Dyma’r categorïau ar gyfer gwobrau eleni:

  • Menyw Fusnes yn y sector Gweithgynhyrchu
  • Menyw Fusnes yn sector y Cyfryngau
  • Menyw Fusnes Ifanc
  • Menyw Fusnes yn y sector Cyfleustodau
  • Menyw Fusnes yn y sector Trafnidiaeth a Logisteg
  • Menyw Fusnes yn y sector Telathrebu
  • Menyw Fusnes yn y sector Technoleg
  • Menyw Fusnes yn y sector Menter Gymdeithasol
  • Menyw Fusnes yn y sector Bwyd a Diod
  • Menyw Fusnes Entrepreneuraidd
  • Menyw Fusnes yn y sector Peirianneg
  • Menyw Fusnes yn y sector Creadigol
  • Menyw Fusnes yn y sector Nwyddau Defnyddwyr
  • Menyw Fusnes yn y sector Adeiladu
  • Menyw Fusnes yn y sector Bancio a Chyllid

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 30 Awst 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Great British Businesswoman Awards


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.