BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

The Great British Pop-Up 2021

Mae menter The Great British Pop-Up yn cael ei rheoli gan The Great British Exchange ar ran John Lewis & Partners.

Mae’r fenter yn gyfle rhagorol i frandiau rentu a rheoli eu gofod manwerthu eu hunain yn y siop adrannol.

Gallwch gynllunio, curadu a darparu fersiwn cyffrous, arbrofol o’ch brand gan wybod y byddwch yn elwa ar nifer uchel o gwsmeriaid a gweithgarwch hyrwyddo a marchnata gwych yn y siop. Mae’n gyfle rhagorol i gyfarfod a chyfarch cwsmeriaid newydd, hybu eich gwerthiant a chynnydd ymwybyddiaeth o’ch brand. Os yw gwerthiant yn eich siop dros dro yn ystod y cyfnod hwn yn dangos potensial enfawr, gallai John Lewis ychwanegu eich brand at eu prif arlwy!

Mae gofod yn cael ei gynnig fesul wythnos a gallwch ddewis pryd y byddwch yn y siop ac am faint. Mae The Great British Pop-Up wedi dechrau cymryd archebion ar gyfer 2021.

Does dim dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Cofrestrwch eich diddordeb drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol i gwblhau’ch ffurflen gais https://tabletop.thegbexchange.com/

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Great British Pop-Up


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.