BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grymuso gyrwyr a hybu cystadleuaeth yn y farchnad manwerthu tanwydd ffordd

Person putting fuel in their car

Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio ar gynllun newydd Pumpwatch, a fydd yn ei gwneud yn haws i yrwyr chwilio am y tanwydd rhataf.

Gofynnir i ddefnyddwyr, manwerthwyr a sefydliadau eraill am eu barn ar gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cynllun newydd Pumpwatch, a fyddai’n golygu bod gofyniad cyfreithiol i’r holl orsafoedd tanwydd ledled y wlad rannu gwybodaeth amser real am brisiau. Bydd sefydliad yn cael ei benodi gan Lywodraeth y DU.

O dan y cynigion newydd, bydd gofyniad cyfreithiol i flaengyrtiau ledled y wlad rannu gwybodaeth fyw am eu prisiau tanwydd o fewn 30 munud o unrhyw newid mewn pris. Gallai hyn arbed 3 ceiniog y litr ar danwydd trwy eu helpu i ddod o hyd i’r fargen orau wrth y pwmp.

Mae’r ymgynghoriad yn cau am 11:59pm ar 12 Mawrth 2024.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Real-time pump prices to drive down fuel costs for motorists - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.