BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi pecyn cymorth o bwys i helpu busnesau Cymru i allforio'n fyd-eang

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £4 miliwn dros y flwyddyn nesaf i helpu busnesau o Gymru i ddod o hyd i gyfleoedd allforio newydd mewn marchnadoedd byd-eang, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw:

  • buddsoddiad o £4 miliwn mewn rhaglenni i greu allforwyr newydd ac i helpu busnesau sy’n allforio eisoes i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd dramor
  • cyhoeddi rhaglen newydd o ddigwyddiadau rhyngwladol, gan gynnwys teithiau masnach i Ogledd America ac America Ladin, y Dwyrain Canol, Affrica, Asia, Awstralasia ac Ewrop

Wrth siarad heddiw yng nghynhadledd Archwilio Allforio Cymru yng Nghaerdydd, mae'r Gweinidog yn datgelu rhaglen uchelgeisiol o gymorth allforio, gan gynnwys cyfres o deithiau masnach rhyngwladol, a fydd ar gael dros y flwyddyn nesaf i helpu busnesau o Gymru i ddod o hyd i gyfleoedd newydd mewn marchnadoedd byd-eang, gan helpu i ddiogelu a chreu swyddi newydd yma yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi pecyn cymorth o bwys i helpu busnesau Cymru i allforio'n fyd-eang | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.