BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn lansio strategaeth ddigwyddiadau uchelgeisiol newydd i Gymru

Heddiw (13 Gorffennaf 2022), mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio strategaeth newydd i helpu i greu swyddi a lledaenu ffyniant economaidd drwy annog ystod eang o ddigwyddiadau llwyddiannus, cynaliadwy ac unigryw Gymreig ledled Cymru.

Mae Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Cymru 2022 i 2030 yn adeiladu ar dwf digynsail digwyddiadau yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf.

Mae'r strategaeth yn ceisio annog digwyddiadau o bob math a maint sydd wedi'u lleoli ym mhob cwr o Gymru, wedi'u gwasgaru ar draws pob tymor ac yn cynrychioli diwylliant Cymru.

Mae'n seiliedig ar dair prif thema:

  • cysondeb yn y diwydiant: er mwyn bod yn wydn ac yn ffyniannus, bydd y diwydiant yn datblygu llais cryf sy'n sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn gweithredu’n gwbl gyson ac yn cydweithio tuag at ganlyniadau cyffredin.
  • dilysrwydd: bydd gan ddigwyddiadau yng Nghymru 'Gymreictod' penodol waeth beth fo'u maint neu eu lleoliad. Bydd hyn yn cynnwys yr iaith Gymraeg, yn adlewyrchu Brand Cymru, a meini prawf Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • cymru gyfan: bydd y diwydiant yn manteisio i'r eithaf ar asedau presennol, yn lledaenu ei ddigwyddiadau ledled Cymru ac yn ystod y flwyddyn, ac yn anelu at sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Gwneud i bethau anhygoel ddigwydd mewn mannau anarferol ac annhebygol", Gweinidog yr Economi yn lansio strategaeth ddigwyddiadau uchelgeisiol newydd i Gymru | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.