BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithdai Cynaliadwyedd Masnach Deg

Mae Cymru masnach Deg yn cyffroes i lansio gweithdai cynaliadwyedd newydd!

Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer yr hyrwyddwyr cynaliadwyedd yn eich sefydliad, ond maen nhw’n addas hefyd ar gyfer yr holl weithwyr ac unigolion ar draws pob sector, i gael cyflwyniad manwl i gynaliadwyedd.

Bydd ystod o opsiynau hyfforddi hyblyg yn cael eu cynnig, gan gynnwys:

  • Dosbarthiadau wyneb yn wyneb.
  • Modiwlau ar-lein hunangyfeiriedig.
  • Gweithdai byw ar-lein/ar Zoom.

Ar ôl cwblhau gweithdy, bydd dysgwyr yn gallu:

  • Defnyddio rhywfaint o’r gwerthoedd yn y gweithle.
  • Deall Cyfrifoldeb Byd-eang, yn enwedig yng nghyd-destun Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015).
  • Deall pŵer cadwyni cyflenwi a phrynu cynaliadwy.
  • Dod o hyd i ragor o adnoddau a safonau rhyngwladol.
  • Deall eich rôl fel unigolyn ac fel busnes.
  • Gweithredu i liniaru problemau, a chymryd y camau nesaf.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gweithdai Cynaliadwyedd Masnach Deg - Fair Trade Wales
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.