BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithdy Her Pecynnau Plastig Cynaliadwyedd Clyfar

Trosolwg o arloesi, llwyddiannau a’r camau nesaf, i’w chynnal gan Her Pecynnau Plastig Cynaliadwyedd Clyfar (SSPP), Innovate UK.

Cynhelir y digwyddiad am ddim hwn yng ngwesty’r Radisson Blue, Caerdydd  ar ddydd Mawrth 6 Medi 2022.

Ymunwch â Her Deunyddiau Pacio Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP) UK Research & Innovation (UKRI), sy’n werth £60 miliwn, KTN, Innovate Edge a WRAP Cymru er mwyn dysgu am y datblygiadau arloesol cyffrous diweddaraf mewn plastigion cynaliadwy, cael manylion ymlaen llaw am gystadleuaeth gyllido newydd ac er mwyn manteisio ar gymorth busnes ehangach i dyfu'ch busnes arloesol.

Bydd y digwyddiad hwn yn helpu cyfranogwyr i:

  • ddysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn prosiectau plastigion arloesol sydd eisoes wedi'u cyllido yng Nghymru ac ar draws y DU gan Her SSPP
  • dysgu am gynlluniau SSPP ar gyfer cystadleuaeth gyllido newydd gwerth £2.5 miliwn, sut i wneud cais a sut i gael gafael ar gymorth trwy KTN
  • deall datblygiadau a blaenoriaethau polisi presennol Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â gwastraff deunyddiau pacio plastig
  • clywed y diweddaraf ar y cymorth busnes sydd ar gael gan Innovate Edge i gwmnïau sy'n awyddus i arloesi a thyfu yn y maes pwysig hwn
  • clywed gan arloeswyr eraill sy'n gweithio ar ddatrysiadau i wastraff deunyddiau pacio plastig, a rhwydweithio â nhw
  • datblygu cyfleoedd cydweithio a phartneriaethau i annog arloesedd, rhannu gwybodaeth a chyfleoedd i gyd-fuddsoddi

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Innovate UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.