BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithio gyda GIG Cymru: Digwyddiad mynediad i’r farchnad a chaffael

Bu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y rheng flaen wrth ymateb i effaith Covid 19, a bu galw mawr am gyfarpar diogelu personol, cyfarpar meddygol, diagnosteg a thechnolegau digidol. Mae dulliau gweithio newydd ac arloesol wedi’u mabwysiadu ledled y sector, ac yn y digwyddiad hwn bydd siaradwyr yn ystyried sut y gallwn ddysgu o’r pandemig a’r hyn y mae’r argyfwng yn ei olygu ar gyfer prosesau caffael y GIG a chydweithio â diwydiant yn y dyfodol.

Bydd siaradwyr o bob rhan o’r maes caffael, arweinwyr arloesi GIG Cymru, gwasanaethau caffael, gofal iechyd seiliedig ar werth a’r llywodraeth yn trafod pynciau fel prynu, mabwysiadu dulliau arloesol a chadernid y gadwyn gyflenwi ar gyfer technolegau iechyd.

Cynhelir y digwyddiad hwn ar Zoom ar 21 Ionawr 2021 rhwng 1pm a 3.30pm.

Ni chodir tâl ar aelodau MediWales i fynychu’r digwyddiad, a’r gost i’r rhai nad ydynt yn aelodau yw £95 + TAW.

Ewch i wefan MediWales i gael rhagor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.