BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar: Chwalu hud Deddf AI yr UE – Goblygiadau i fusnesau yn y DU

AI Regulation Concept: Circuit Brain with European Union Stars Symbolising Legislation

Yn rhan o raglen BridgeAI Innovate UK, mae sefydliad Alan Turing yn cynnal gweminar a fydd yn archwilio Deddf Deallusrwydd Artiffisial (AIA) yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac yn trafod ei goblygiadau i fusnesau yn y Deyrnas Unedig (DU).

Pan fydd wedi’i mabwysiadu, bydd AIA yr UE yn effeithio ar sefydliadau ymhell y tu hwnt i ffiniau Ewrop, ac wrth i’r UE symud ymlaen â’i ymdrechion i reoleiddio AI, mae’n hollbwysig bod cwmnïau yn y DU yn deall sut bydd y rheolau newydd yn effeithio ar eu busnesau.

Er mwyn rhoi arweiniad i sefydliadau yn y DU, mae’r digwyddiad hwn yn cynnig dadansoddiad o elfennau allweddol AIA yr UE ac yn rhoi diweddariadau i’r cyfranogwyr ar y sefyllfa o ran safoni AI yn Ewrop, gan gynnwys safbwynt y sector preifat ar sut i addasu i’r amgylchedd rheoleiddiol sy’n esblygu.

Cynhelir y weminar ar 26 Mawrth 2024.

I gael rhagor o wybodaeth ac archebu eich lle, dewiswch y ddolen ganlynol: Demystifying the EU AI Act – Implications for UK businesses - Innovate UK Business Connect (ktn-uk.org)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.