BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar creu strategaeth ar gyfer y dyfodol

Ymunwch â gweminar ryngweithiol wedi’i gwesteio gan ELITE, rhwydwaith byd-eang sy’n helpu cwmnïau uchelgeisiol i ehangu a chael gafael ar gyllid.

Fel rhan o’r weminar, byddwch yn meithrin methodoleg ansoddol ar gyfer asesu effaith COVID-19 ar eich busnes. Byddwch hefyd yn cael gafael ar offer ymarferol i asesu cyfleoedd twf a chreu cynllun gwydnwch, er mwyn helpu i adeiladu busnes cynaliadwy i’r dyfodol.

Cynhelir y weminar ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2020 rhwng 9am ac 11am.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i wefan ELITE.
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.