BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar: Gweithredu ar Wastraff Platiau

Mae ymchwil WRAP yn dangos bod 1.1 miliwn o dunelli o fwyd yn cael ei wastraffu o’r sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd bob blwyddyn; ac, ar gyfartaledd, mae 18% o’r bwyd sy’n cael ei brynu yn cael ei waredu, sy’n costio’r sector £3.2 biliwn. 

Wrth i fusnesau Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd ddatgan bod cymaint ag 80% o wastraff bwyd yn deillio o blatiau cwsmeriaid, mae cyfle sylweddol i arbed gwastraff a chostau i fusnesau Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd a gwarchod elw a’r blaned.

Mae WRAP yn dod ag arweinwyr ar draws y sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd at ei gilydd i:

  • Ddeall pam mae cwsmeriaid yn gwastraffu bwyd a beth gall busnesau ei wneud i’w leihau.
  • Datgelu ymchwil NEWYDD ar yr achosion a’r atebion posibl i wastraff platiau o safbwynt pobl sy’n gweithio yn y sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd.
  • Yn rhannu’r buddion ar gyfer mesur gwastraff bwyd a threialu ymyriadau i fynd i’r afael â gwastraff bwyd ar lefel busnesau.

Bydd y weminar o ddiddordeb i weithredwyr yn y sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd a’r nod fydd cynnig arweiniad a chyflwyno camau gweithredu pendant i ddiogelu eich busnes mewn hinsawdd economaidd ansicr a chyflawni eich uchelgeisiau sero net.

Cynhelir y weminar am ddim ar 22 Mehefin 2023. Am ragor o wybodaeth ac i gadw eich lle, cliciwch y ddolen ganlynol Serving up action on plate waste: why customers leave food when eating out Tickets, Thu 22 Jun 2023 at 14:00 | Eventbrite 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.