BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar – Mewnwelediadau ar yr argyfwng costau byw

Ymunwch â Sefydliad Bevan i glywed y mewnwelediadau diweddaraf ar sut mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar deuluoedd yng Nghymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cyfres cipolwg ar dlodi Sefydliad Bevan wedi dod yn adnodd hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall effaith Covid 19 a'r argyfwng costau byw ar dlodi yng Nghymru.

Ymunwch â'r sesiwn friffio 30 munud am ddim i glywed canfyddiadau'r arolwg diweddaraf ac i ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu teuluoedd ledled Cymru yr haf hwn. 

Bydd y digwyddiad ar-lein yn rhannu canfyddiadau pwysicaf eu hadroddiad cipolwg ar dlodi diweddaraf. Yn ogystal â chyflwyniad byr o'r canfyddiadau allweddol, byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau ar yr ymchwil.

Trefnwch eich lle i ddeall:

  • Y data diweddaraf ar effaith yr argyfwng costau byw ar Gymru.
  • Pa grwpiau sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw.
  • Pa effaith y gallai'r argyfwng costau byw ei chael ar eich sefydliad dros y misoedd nesaf.

Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar 27 Gorffennaf 2022 rhwng 1pm a 1:30pm.

I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu lle, ewch i: Lunchtime launch: A snapshot of poverty in summer 2022 - Bevan Foundation
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.