BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Rhagolygon Economaidd Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Mae economegwyr y Sefydliad Fraser Allander wedi bod yn dadansoddi'r rhagolygon economaidd diweddaraf. Maent yn chwilio am fusnesau sydd â diddordeb i adolygu'r wybodaeth economaidd bresennol am Brifddinas Rhanbarth Caerdydd, ac effaith y pandemig ar fusnesau ledled Caerdydd.

Os hoffech wybod mwy am sut mae cyflogaeth wedi newid, effeithiau gweithio gartref, a'r newidiadau posib i'r ffordd y gallai busnesau weithredu yn y dyfodol, ymunwch â'n gweminar am ddim, a fydd yn digwydd ddydd Mawrth, 3 Tachwedd rhwng 3pm a 4pm.

Gweler y wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau ymadael a’r UE a Covid-19 ar fasnach, ac mae eich barn am sut y mae wedi bod yn effeithio arnoch.

Drwy rywfaint o bleidleisio rhyngweithiol, rhannwch eich barn ar:

  • eich disgwyliadau o effeithiau ar eich cadwyni cyflenwi
  • pa wledydd rydych chi'n masnachu gyda nhw
  • faint rydych chi'n ei fasnachu gyda rhanbarthau eraill o fewn y DU
  • sut rydych chi'n disgwyl i hynny newid

I archebu eich lle ewch i wefan Eventbrite.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.