BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Ymwybyddiaeth o’r Menopos

Sefydlodd ymchwil gan CIPD a gynhaliwyd yn 2021 fod 6 o bob 10 o fenywod sy'n gweithio ac sy’n profi'r menopos yn dweud ei fod yn cael effaith negyddol arnyn nhw yn y gwaith ar hyn o bryd. Mae un o bob deg menyw yn y DU yn gadael eu swyddi'n llwyr oherwydd symptomau'r menopos, nid yw un o bob pump menyw yn ceisio'r dyrchafiadau y maen nhw'n eu haeddu - gallai hyn fod yn gydweithiwr i chi neu rywun sy'n agos atoch chi'n bersonol.

Mae gweminar AWCIC Learn and Share: Menopause Awareness – for Men Supporting Women ar agor i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus, elusennau cofrestredig neu sefydliadau’r sector preifat sy'n gweithredu yng Nghymru ac fe’i gynhelir ar 24 Awst 2022. 

Nid yw dynion a menywod yn byw ac yn gweithio ar wahân - bydd y sesiwn hon ar y menopos yn eich helpu i gefnogi'r rheiny rydych chi'n eu caru, yn poeni amdanynt ac yn gweithio gyda nhw. Efallai na fydd y menopos yn effeithio arnoch chi’n uniongyrchol, ond mae'n debygol iawn o effeithio arnoch chi yn anuniongyrchol. 

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru eich lle, ewch i AWCIC Digwyddiad Dysgu a Rhannu: Ymwybyddiaeth o’r Menopos - ar gyfer Dynion sy’n cefnogi Menywod - Trosolwg - Digwyddiadau - Academi Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.