BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau allforio – ar gael i’w gwylio nawr ar adeg sy’n gyfleus i chi

Mae rhaglen o weminarau sydd wedi’u creu ar gyfer allforwyr Cymreig wedi’i llunio gan Dîm Masnach Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf. 

Mae’r gweminarau hyn bellach ar gael ar y we fel y gall busnesau eu gwylio ar adeg sy’n gyfleus iddynt hwy, un ai drwy Barth Allforio Busnes Cymru - https://businesswales.gov.wales/export/cy/sut-y-gallwn-helpu/gweminarau neu sianel YouTube Busnes Cymru - https://www.youtube.com/user/businesswales/videos

Roedd y rhaglen yn cynnwys detholiad o gyngor ac arweiniad, gan arbenigwyr masnach rhyngwladol, a chanolbwyntiodd nifer ar ddiwedd cyfnod pontio’r UE/Brexit. Yn eu mysg roedd cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y farchnad gan gynrychiolwyr allweddol o fewn y farchnad. Dyma restr lawn o’r gweminarau:

  • Brexit – Deall Rheolau Tarddiad
  • Brexit – Cydweithio ag Asiantwyr a Dosbarthwyr
  • Brexit – Eich allforion a Chytundebau Masnach Rydd, beth sy’n dod nesaf?
  • Brexit – Datganiadau tollau, ar ôl Brexit
  • Brexit – Diwedd cyfnod pontio’r UE– Ydych chi’n barod?
  • Allforio i Tsieina
  • Allforio i India
  • Cyfleoedd ym maes y gwyddorau bywyd yn Sbaen / Gwlad y Basg
  • E-fasnach ac Allforio
  • Dewis eich marchnad allforio newydd
  • Llwybrau i farchnad
  • Pennu a rheoli risg

Bydd rhagor o weminarau ar gael yn y flwyddyn newydd.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.