BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau CThEM – treuliau busnes

Gall gweminarau CThEM eich helpu i ddeall pa dreuliau busnes y gallwch eu hawlio.

Ymunwch â'r gweminarau byw i gael y wybodaeth ddiweddaraf a'r cyfle i ofyn cwestiynau gan ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin.

Treuliau busnes i'r hunangyflogedig

Cewch wybod beth yw treuliau busnes, beth sy'n cael ei ganiatáu a beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu, a sut y gall defnyddio treuliau symlach wneud bywyd yn haws. Dewis dyddiad ac amser

Treuliau car i'r hunangyflogedig

Os ydych chi'n defnyddio eich car eich hun ar gyfer busnes, cewch wybod am dreuliau moduro cyfradd unffurf, cyfrifo'r costau gwirioneddol, prydlesu car, a phrynu drwy gontract personol. Dewis dyddiad ac amser

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.