BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau newydd Llywodraeth y DU ar fewnforio cig a chynhyrchion cig a sgil gynhyrchion anifeiliaid o’r UE i Brydain Fawr

O Orffennaf 2022, bydd angen cynnal archwiliadau ffisegol ac adnabod ac archwilio tystysgrifau a dogfennau ar gynnyrch anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU am roi gwybodaeth i fusnesau cyn bod y mesurau rheoli mewnforion yn cael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf. 

Bydd Defra’n cynnal cyfres o weminarau a sesiynau holi ac ateb fydd yn rhoi gwybodaeth fanwl am y camau y bydd angen ichi eu cymryd i barhau i fewnforio cynnyrch anifeiliaid o’r UE. Byddwch yn cael cyflwyno hyd at dri chwestiwn pan fyddwch chi’n cofrestru a byddwn yn ceisio eu hateb yn ystod y weminar. 

Cewch gofrestru nawr ar gyfer y gweminarau canlynol: 

Mewnforio cig a chynhyrchion cig o’r UE i Brydain Fawr 

Mewnforio sgil gynhyrchion anifeiliaid o’r UE i Brydain Fawr 

Mae Defra am gynnal gweminarau am gynhyrchion anifeiliaid eraill fel llaeth, pysgod a chynnyrch cyfansawdd a bydd yn rhoi manylion ichi amdanyn nhw cyn hir. Cofrestrwch ar gyfer y Newyddlen Mewnforion er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. 

Rhagor o wybodaeth 

Mae Defra wedi datblygu Microsafle ar Fewnforion sy’n cadw gwybodaeth (cwestiynau cyffredin, mapiau proses, canllawiau) am fesurau rheoli mewnforion.  Bydd angen caniatâd arnoch i fynd ar y safle. Cliciwch ar y ddolen uchod i gael caniatâd. 

Dysgwch fwy am fewnforio bwyd a diod o'r UE i Brydain Fawr ar gov.uk 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.