Os bydd gweithiwr yn dod yn rhiant neu'n mynd yn sâl, darganfyddwch ba daliadau y mae ganddynt hawl iddynt drwy ymuno â'r gweminarau byw canlynol gan CThEM.
Gallwch ofyn cwestiynau trwy ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin.
Tâl Mamolaeth a Thadolaeth Statudol
Mae'r weminar hon yn ymdrin â'r amodau y mae angen i'ch gweithiwr eu bodloni, faint y mae ganddynt hawl i'w gael, hawlio rhywfaint neu'r cyfan o'r hyn rydych yn ei dalu, a chadw cofnodion. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gofrestru eich lle: Cofrestru (gotowebinar.com)
Tâl Salwch Statudol
Darganfyddwch pwy sy'n gymwys, sut i gyfrifo Tâl Salwch Statudol a phryd i'w dalu, beth yw’r diwrnodau cymhwyso a’r cyfnodau cysylltu, a beth sy'n digwydd pan fydd gweithwyr yn sâl neu'n hunanynysu yn sgil coronafeirws. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gofrestru eich lle: Cofrestru (gotowebinar.com)
I gael help ychwanegol, rhowch gynnig ar 'National Insurance contributions and statutory payments toolkit' CThEM.