BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau Tŷ’r Cwmnïau

Cofrestrwch nawr i ddarganfod mwy am yr hyn sydd angen i chi ei ystyried wrth ddechrau cwmni.

Mae’r gweminarau’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • dechrau cwmni cyfyngedig a’ch cyfrifoldebau i Dŷ’r Cwmnïau a CThEM
  • sut y gall eiddo deallusol fel patentau, nodau masnach a hawlfreintiau effeithio ar eich busnes
  • cyfarwyddyd ar ddechrau cwmni buddiant cymunedol (CBC)
  • sut i gofrestru morgeisi cwmnïau ac arwystlon eraill yn Nhŷ’r Cwmnïau
  • sut i adfer cwmni i’r gofrestr

Yn ystod y gweminar, gallwch ofyn cwestiynau trwy ddefnyddio’r blwch testun ar y sgrin.

Bydd y tîm ar-lein o arbenigwyr yn gwneud eu gorau i ateb eich holl gwestiynau, neu yn eich cyfeirio at ganllawiau defnyddiol.

Cofrestrwch ar gyfer cyhoeddiadau e-bost i glywed am gweminarau diweddaraf, neu anfonwch e-bost at y tîm, webinar@companieshouse.gov.uk, gyda’ch awgrymiadau ar gyfer pynciau yr hoffech eu cynnwys yn y dyfodol.

Os ydych chi wedi methu gweminar, gallwch wylio recordiad o’r cyflwyniad (Saesneg yn unig).

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Gweminarau Tŷ’r Cwmnïau - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.