BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwerthu ar-lein a thalu trethi

Os ydych chi’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau trwy farchnadle ar-lein yn rheolaidd, gallech gael eich ystyried yn ‘fasnachwr’. 

Ac os ydych chi’n ennill mwy na £1,000 cyn didynnu treuliau trwy fasnachu, bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar hwn.

At ddiben treth, mae marchnadle ar-lein yn wefan neu ap ffôn symudol sy’n delio â gwerthu nwyddau a gwasanaethau gan unigolion a/neu fusnesau i gwsmeriaid, ac yn galluogi hynny.

Os ydych chi’n gwerthu eitemau yn achlysurol yn unig, gallwch wirio a oes angen i chi ddweud wrth CThEF am yr incwm hwn.

Os nad ydych chi erioed wedi datgan incwm trwy ffurflen dreth Hunanasesu, gallwch gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein CThEF.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Gwerthu ar-lein a thalu trethi – ffurflen wybodaeth – GOV.UK (www.gov.uk) 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.