BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwerthu mwy gyda Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr

Twristiaeth Prydain Fawr

Ydych chi'n:

  • Darparwr llety neu'n atyniad yng Nghymru? 
  • Cynnal teithiau neu weithgareddau yng Nghymru? 
  • Efallai eich bod yn cynnal digwyddiadau neu'n Sefydliad Marchnata Cyrchfan (DMO) / cymdeithas fasnach? 
  • A allech elwa o fwy o archebion? 
  • Angen help gyda rheoli archebion ar-lein? 
  • Neu efallai eich bod newydd ddechrau ar archebu ar-lein ac angen help i reoli popeth mewn un lle. 

Yna gallai Tourism Exchange Great Britain (TXGB), fod yn gyfle i chi.

Mae Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru wedi trwyddedu TXGB er mwyn sicrhau ei bod ar gael i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae TXGB eisoes yn cael ei ddefnyddio gan VisitBritain / Visit England a Tourism Northern Ireland, ac mae eisoes wedi hen sefydlu yn Awstralia gyda gwledydd eraill yn ei drwyddedu ar hyn o bryd. 

Mae TXGB yn blatfform digidol sy'n dwyn ynghyd fusnesau twristiaeth i yrru gwerthiannau a hybu cynhyrchiant trwy gysylltu'r farchnad mewn ffordd newydd ac unigryw. Mae'n galluogi pob busnes twristiaeth fel llety, teithiau, digwyddiadau ac atyniadau i reoli argaeledd, prisio ac archebion yn fyw ar draws sawl sianel werthu, o un dangosfwrdd hawdd ei ddefnyddio. P'un a oes gennych eich technoleg archebu eich hun neu'n dymuno galluogi cwsmeriaid i archebu ar-lein am y tro cyntaf mae TXGB yn cynnig dull clyfar ichi o ddenu mwy o archebion.

Neu os ydych chi'n Sefydliad Marchnata Cyrchfan (DMO) / cymdeithas fasnach ac yn cyflenwi cynnyrch twristiaeth ar eich gwefan yna gallwch gysylltu â busnesau yn eich ardal fel platfform dosbarthu. 

Edrychwch ar y fideo byr hwn am ragor o wybodaeth.

Ar hyn o bryd rydym wrthi'n datblygu rhai astudiaethau achos o fusnesau Cymru sy'n defnyddio TXGB, yn y cyfamser edrychwch ar y busnesau canlynol a sut maent wedi elwa o ddefnyddio TXGB:

Mae astudiaethau achos pellach ar gael ar wefan TXGB a thrwy TXGB Wales - MWT Cymru 

Os hoffech ragor o wybodaeth neu fynegi diddordeb yn TXGB, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.