BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwireddu’r Anhygoel – enillwch £7,500 i dyfu eich busnes

Mae Enterprise Nation a VistaPrint wedi dod at ei gilydd i ddarparu rhaglen grant arian parod gwerth hyd at £150,000 a fydd yn helpu cyw entrepreneuriaid i dyfu eu mentrau. 

Yn y rhaglen, bydd 20 o fusnesau bach o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn ennill £7,500 yr un, ochr yn ochr â chymorth ac arbenigedd marchnata a dylunio, i helpu eu busnes i ffynnu.

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i’ch busnes:

  • fod â’i gartref yn y DU a rhaid bod gennych gyfrif busnes gyda banc yn y DU
  • bod yn fusnes cofrestredig neu wedi cofrestru’n hunangyflogedig, gyda thystiolaeth o’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 
  • bod â gweithlu o ddim mwy na 10 o weithwyr 
  • bod yn masnachu ers o leiaf dri mis 
  • ddim yn mynd trwy broses ansolfedd, archwilio (examinership), yn llaw’r derbynnydd nac yn mynd trwy unrhyw broses debyg ac, 
  • os gofynnir amdano, rhaid i’ch busnes fod yn barod i rannu ei hanes llwyddiannus o ddefnyddio’i grant arian parod (gallai VistaPrint ddefnyddio a/neu gyhoeddi’r manylion hyn ymhellach at amrywiol ddibenion fel marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus)

Bydd ceisiadau’n cau am 23:59, 26 Chwefror 2023.

Os yw eich busnes yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, gwnewch gais nawr trwy ddilyn y ddolen ganlynol Gwireddu’r Anhygoel | Enterprise Nation


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.