BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwirio pryd i gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch pryd mae’n rhaid i chi fodloni gofynion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Yn gyntaf, dylech wirio a allwch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn unigolyn
  • rydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad (dysgwch fwy am gofrestru ac anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad)
  • roeddech yn hunangyflogedig neu’n casglu incwm o eiddo cyn 6 Ebrill 2025
  • mae gennych incwm cymwys sy’n fwy na £50,000

Mae’r dyddiadau’n wahanol ar gyfer partneriaethau neu os byddwch yn dod yn landlord neu’n unig fasnachwr. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwirio pryd i gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.