BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwneud cais i'r Gronfa Entrepreneuriaid Ynni

Cynllun ariannu cystadleuol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu technolegau, cynhyrchion a phrosesau effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu a storio pŵer yw'r Energy Entrepreneurs Fund (EEF).

Mae gan entrepreneuriaid ynni dawnus gyfle i elwa ar gyfran o £11 miliwn o gyllid gan lywodraeth y DU i droi eu syniadau'n gynhyrchion a gwasanaethau go iawn ochr yn ochr â dileu allyriadau carbon.

Mae'n cynnwys datblygiadau arloesol sy'n hybu effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi pobl, yn lleihau allyriadau carbon ac yn datblygu trafnidiaeth werdd yn ogystal â chanfod ffyrdd glanach a gwyrddach o gynhyrchu pŵer a gwres.

Cofrestrwch eich diddordeb erbyn 26 Chwefror 2021 am hanner dydd. Y dyddiad cau i gyflwyno'ch ceisiadau yw 30 Mawrth 2021 am hanner dydd.
Ceir cyflwyniad gwybodaeth i ymgeiswyr ddydd Gwener 12 Chwefror 2021. I dderbyn gwahoddiad i'r cyflwyniad hwn, e-bostiwch entrepreneur@beis.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.