BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwnewch gais am #SmallBiz100 cyn 30 Mehefin

Ydych chi wedi gwneud cais am ymgyrch SmallBiz100 eto?

Peidiwch ag oedi a chyflwynwch eich cais heddiw. Bydd y ceisiadau'n cau am hanner nos ar 30 Mehefin 2022.

Mae hwn yn gyfle gwych i dynnu sylw cenedlaethol at eich busnes bach, yn ogystal ag ymuno â rhwydwaith cymorth parod o fusnesau bach yn union fel eich un chi.

Mae cael eich dewis fel un o'r 100 o fusnesau bach rhyfeddol sy'n cael sylw yn y 100 sy'n arwain at Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ar 3 Rhagfyr hefyd yn cynnig cyfle anhygoel i rwydweithio â busnesau bach eraill, cael cyngor arbenigol, mynychu digwyddiadau unigryw, a chael sylw yn yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ynghyd â'r wasg genedlaethol a lleol.

Ydych chi wedi ystyried sut gallai eich busnes bach elwa ar SmallBiz100? Darganfyddwch fwy yn y Dydd Sadwrn y Busnesau Bach

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference!
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.