BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy 2024

farmer planting seeds

Mae NFU Cymru wedi lansio’r Wobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy i gydnabod cyfraniad unigryw mentrau ffermio Cymru at les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Bydd Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy NFU Cymru / Wynnstay Group PLC yn cael ei dyfarnu i’r fferm neu’r ffermwr sy’n gallu gwneud pob un o’r pethau canlynol:

  • Dangos ymrwymiad i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel i safonau o’r radd flaenaf.
  • Dangos eu cyfraniad cadarnhaol at warchod, cynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd ffermio.
  • Dangos eu cyfranogiad a'u cyfraniad i'r economi wledig, y gymuned wledig a diwylliant Cymru.

Bydd enillydd y wobr yn cael £500 a gwobr i’w chadw. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Gwener 6 Medi 2024.

Gwahoddir enwebiadau gan ffermydd a/neu ffermwyr ledled Cymru. Gall ffermwyr eu henwebu eu hunain neu gallant gael eu henwebu gan ffrindiau, perthnasau neu sefydliadau.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: NFU Cymru – NFU Cymru (nfu-cymru.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.