BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes a Chymuned Prydain Fawr 2023

Bydd y gwobrau hyn yn cydnabod busnesau, elusennau, ac unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol ledled Prydain Fawr. Gall unrhyw fusnes neu unigolyn sydd wedi'i leoli ym Mhrydain Fawr naill ai enwebu neu gael ei enwebu.

Dyma’r categorïau:

  • Busnes y Flwyddyn
  • Entrepreneur Gwrywaidd y Flwyddyn
  • Entrepreneur Benywaidd y Flwyddyn
  • Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn
  • BBaCh y Flwyddyn
  • Cyflogwr y Flwyddyn
  • Hyrwyddwr Cymunedol COVID
  • Prentis y Flwyddyn
  • Elusen y Flwyddyn
  • Cyfraniad Eithriadol i'r Gymuned
  • Oes o Gyflawniad
  • Gwobr Hamdden a Thwristiaeth
  • Arweinydd Busnes y Flwyddyn
  • Gwobr Rhwydweithiwr y Flwyddyn
  • Gwobr Arloeswr y Flwyddyn

Mae'r enwebiadau'n cau am 11pm ar 24 Mawrth 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Award Categories : Great British Business Awards


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.