BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru (BCC) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Darperir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Cwmpas (enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru) ac mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru.

Hon fydd 7fed flwyddyn Gwobrau BCC, ac rydym am dynnu sylw, yn fwy nag erioed, at dwf a photensial aruthrol y sector a’i gyfraniad hanfodol i gymunedau ledled Cymru.

Eleni mae yna 10 categori gwobrau i fentrau cymdeithasol ddewis o’u plith, gan gynnwys pedwar categori newydd sy’n adlewyrchu’r ffyrdd y mae mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n bywydau yn y 12 mis diwethaf.

Bydd yr holl enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol y DU ym mis Rhagfyr.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Gorffennaf 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022 - Cwmpas
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.