BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Cymdeithasol SE100 2023

Mae cydraddoldeb a hinsawdd ar flaen y gad o ran Gwobrau Mynegai SE100 NatWest a Busnes Cymdeithasol eleni. Peidiwch â cholli'ch cyfle i gael eich enwi ymhlith mentrau effaith gorau’r DU – cyflwynwch eich cais erbyn 7 Mai 2023.

Mae'r gwobrau'n cydnabod mentrau cymdeithasol a busnesau sy'n cael eu gyrru gan genhadaeth sy'n arwain drwy esiampl yn eu hymgais i gynhyrchu refeniw i ddarparu cenhadaeth gymdeithasol neu amgylcheddol.

Dyma gategorïau eleni:

  • Gwobr Cydraddoldeb
  • Newydd-ddyfodiad Arloesol​
  • Hyrwyddwr Busnes Cymdeithasol
  • Hyrwyddwr Rheoli Effaith
  • Arweinydd y Flwyddyn
  • Gwobr Buddsoddiad Cymdeithasol
  • Hyrwyddwr Hinsawdd 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol UK social enterprise ‘top 100’ 2023 edition opens for nominations | The Social Enterprise Magazine - Pioneers Post
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.