BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Cymru 2023

Mae Siambrau Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer Gwobrau Busnes Cymru 2023, gan roi cyfle i BBaChau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf nodedig Cymru.

Nid yw erioed wedi bod yn haws rhoi cynnig ar Wobrau Busnes Cymru ac mae am ddim.

Y cyfan mae'n rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad arall o Gymru ei wneud yw ateb pedwar cwestiwn am beth rydych chi'n ei wneud a pham rydych chi'n haeddu ennill wrth i chi roi cynnig yn y ffordd sy'n gweithio orau i'ch busnes.

Gallwch gystadlu drwy gyflwyno fideo byr neu lenwi'r ffurflen ar-lein. Gallwch roi cynnig ar sawl categorïau yn y gwobrau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb y cwestiynau sy'n berthnasol i bob categori. Gallwch ddefnyddio sawl ffurflen os ydych chi’n cyflwyno cynnig ar gyfer mwy nag un categori.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 17 Chwefror 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Wales Business Awards 2023 - Entry Form (cw-seswm.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.