BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Gwyrdd y DU 2024

UK Green Business Award

Ymunwch â Business Green i ddathlu’r hyn sydd ar reng flaen economi werdd y DU yng Ngwobrau Busnes Gwyrdd y DU. Mae’r digwyddiad, sy’n cydnabod arloesedd a chynaliadwyedd, yn arddangos cwmnïau, prosiectau ac ymgyrchoedd eithriadol.

Mae 29 categori’n anrhydeddu llwyddiannau ym maes ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, yr economi gylchol, ymgyrchoedd marchnata, busnesau bach ac arloesiadau. Byddwch yn rhan o’r dathliad gyda 600+ o arweinwyr diwydiant yn The Brewery yn Farringdon, Llundain.

Mae cynigion ar gyfer y gwobrau yn cau ar 1 Mawrth 2024.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: UK Green Business Awards 2024 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.