BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Torfaen a Sir Fynwy 2024

Torfaen and Monmouthshire Business Awards 2024

Mae Gwobrau Busnes Torfaen a Sir Fynwy bellach yn derbyn ceisiadau, gyda’r nod o ddathlu llwyddiannau eithriadol busnesau lleol. Cynhelir y digwyddiad yng ngwesty’r Parkway yn Nhorfaen ar 19 Medi 2024.

Mae’n rhad ac am ddim ac mae 14 categori i ddewis ohonynt, sef:

  • Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn
  • Entrepreneur y Flwyddyn
  • Cyflogwr y Flwyddyn
  • Busnes Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn
  • Busnes Gwyrdd y Flwyddyn
  • Busnes Arloesi a Thechnoleg y Flwyddyn
  • Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
  • Busnes Gweithgynhyrchu'r Flwyddyn
  • Busnes Manwerthu'r Flwyddyn
  • BBaCh y Flwyddyn
  • Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Sefydliad Trydydd Sector y Flwyddyn
  • Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn
  • Person Busnes Ifanc y Flwyddyn

Gellir cyflwyno ceisiadau tan 28 Mehefin 2024.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gyflwyno eich cais: Tm business awards

Mae cyfleoedd noddi hefyd ar gael cysylltwch â TMBA@grapevineeventmanagement.co.uk i gael manylion. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.