BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2024

Bottles of Cariad Gin

Mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r busnesau bwyd a diod gorau yng Nghymru, ac mae 2024 yn nodi trydedd flwyddyn y gwobrau, a gynhelir y tro hwn yn Abertawe. Mae’r gwobrau’n rhoi cyfle gwych i gwmnïau o’r fferm i’r fforc arddangos eu brand, eu cynnyrch, eu cynlluniau a’u pobl, gan bwysleisio’r hyn sy’n eu gwneud yn wahanol i’w cystadleuwyr.

Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan, rhaid i fusnesau gydymffurfio â’r amodau canlynol:

  • Roedd y busnes wedi dechrau masnachu cyn 9 Mai 2023 neu ar y dyddiad hwnnw
  • Mae’r busnes wedi’i leoli yng Nghymru
  • Mae’r busnes yn talu ardrethi busnes i’w gyngor lleol yng Nghymru

Mae’r categorïau fel a ganlyn:

  • Prentis y Flwyddyn
  • Busnes Artisan y Flwyddyn
  • Gwobr Gwytnwch Busnes
  • Cynhyrchydd Diodydd y Flwyddyn (dros 5 o weithwyr)
  • Cynhyrchydd Bach Diodydd y Flwyddyn (llai na 5 o weithwyr)
  • Entrepreneur y Flwyddyn
  • Allforiwr y Flwyddyn
  • Cynhyrchydd y Flwyddyn o’r Fferm i’r Fforc
  • Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn
  • Gwobr Arloesedd
  • Gwobr Cymuned Leol
  • Seren Esgynnol y Flwyddyn
  • Cwmni’r Flwyddyn am Ehangu
  • Cwmni Newydd y Flwyddyn
  • Gwobr Gwerthoedd Cynaliadwy
  • Hyrwyddwr Bwyd a Diod Cymru
  • Busnes y Flwyddyn, Uwchsgilio ym maes Bwyd a Diod yng Nghymru

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 23 Chwefror 2024.

I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: Food and Drink Awards 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.