BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Cyfarwyddwr y Flwyddyn Cymru 2024

group of people clapping

Mae Gwobrau Cyfarwyddwr y Flwyddyn, Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru, yn dathlu llwyddiannau’r arweinwyr busnes rhagorol yn ein cymdeithas. Mae’r gwobrau, a gynhelir unwaith y flwyddyn, yn cael eu rhoi i bobl sy’n rhagori mewn meysydd fel Cynaliadwyedd, Ystwythder a Gwydnwch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a mwy.

Mae’r gwobrau, sydd ar agor i bawb – p’un a ydych chi’n gyfarwyddwr gweithredol, anweithredol, partner neu hyd yn oed yn brif gwnstabl – eisiau clywed am eich gwaith fel uwch benderfynwyr i helpu adeiladu byd gwell trwy fusnes.

Mae ceisiadau’n cau ar 23 Chwefror 2024.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Gwener, 17 Mai 2024 yn ICC Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Wales Director of the Year Awards | Institute of Directors (iod.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.