BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Digital Leaders 100

Mae Gwobrau Digital Leaders 100 yn ôl am 9fed flwyddyn! Mae'r gwobrau hyn yn dathlu unigolion a sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw sy'n dangos dulliau trawsnewid digidol arloesol a chynaliadwy yn y DU. 

Dyma'r categorïau eleni:

  • Arweinydd Digidol 
  • Digidol Ifanc 
  • BBaCh Digidol 
  • Arloesi Deallusrwydd Artiffisial
  • Menter neu Dalent Sgiliau Digidol 
  • Arloesi Data Mawr 
  • Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol 
  • Arloesi Geo-ofodol 
  • Arloesi 5G 
  • Arloesi Iechyd 

Categorïau arbennig:

  • Gwobr Goffa Craig Macdonald
  • Arloesi Digidol yn ystod y Pandemig
  • Hyrwyddwr Lleol Arweinwyr Digidol

Gallwch enwebu eich hun neu'ch sefydliad mewn unrhyw gategori perthnasol. Mae'r broses gofrestru ac enwebu yn cau ddydd Gwener 10 Medi 2021 am hanner dydd.

Ewch i wefan Digital Leaders 100 am fwy o fanylion.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.